Mohammed Badie (mohamedhph CCA 1.0)
Mae’r heddlu yn yr Aifft wedi arestio pennaeth ysbrydol y Frawdoliaeth Foslemaidd yn ôl adroddiadau gan swyddogion diogelwch a theledu’r wladwriaeth.
Mae’n ymddangos fod Mohammed Badie wedi cael ei arestio mewn fflat yn ardal ddwyreiniol Dinas Nasr yng Nghairo yn agos at un o wersylloedd protest cefnogwyr y cyn-Arlywydd Mohammed Morsi.
Mae Mohammed Badie ynghyd â’i ddirprwy Khairat el-Shater yn wynebu cyhuddiad o ladd wyth gwrthdystiwr y tu allan i bencadlys y Frawdoliaeth Foslemaidd yn Cairo fis Mehefin.
Rhyddhau Mubarak?
Daeth y newyddion yma yn sgil dyfarniad llys ddydd Llun sydd wedi codi’r posibilrwydd y gallai’r cyn-Arlywydd Hosni Mubarak gael ei ryddhau o’r carchar.
Byddai hyn yn ychwanegu at yr anghydfod sy’n parhau yn y wlad ar ôl i olynydd Hosni Mubarak, Mohammed Morsi, gael ei ddisodli gan y fyddin yn gynharach eleni.
Mae’r terfysg yn yr Aifft yn parhau wrth i filwriaethwyr Islamaidd ladd 25 o blismyn mewn ymosodiad ym Mhenrhyn Sinai ddoe gan eu gorfodi i’r llawr a’i saethu’n farw.