Benazir Bhutto
Mae un o gyn arlywyddion Pacistan wedi cael ei gyhuddo o lofruddio’r cyn Brif Weinidog, Benazir Bhutto.

Yn ôl ei gyfreithiwr, roedd Pervez Musharraf wedi pledio’n ddieuog i gyhuddiadau sy’n cynnwys llofruddiaeth, cynllwyn i lofruddio a rhwyddhau llofruddiaeth.

Yn ôl yr erlyniad, roedd wedi methu â gwneud digon i ddiogelu Benazir Bhutto a oedd yn aelod o un o deuluoedd gwleidyddol pwysica’ Pacistan.

Roedd y gwleidydd wedi cael ei saethu’n farw mewn rali wleidyddol yn Rawalpindi yn 2007 pan oedd yn ceisio ennill grym yn ôl.

Llwyth o gyhuddiadau

Mae Pervez Musharraf wedi wynebu pob math o gyhuddiadau amrywiol ynglŷn â’i gyfnod yn arlywydd.

Fe gafodd ei arestio ar ôl dod yn ôl i Bacistan o alltudiaeth ym mis Mawrth.