Mae trên cyflym wedi lladd tua 20 o bobol a oedd ar bererindod yn Nwyrain India, yn ôl adroddiadau gan un o wleidyddion y wlad.

Mae rhai adroddiadau’n dweud bod nifer y meirwon yn 35 a bod pererinion eraill wedi lladd y gyrrwr o ganlyniad.

Dywedodd Dinesh Chandra Yadav, sy’n aelod o Senedd India, bod y grŵp yn croesi’r cledrau ger tref Dhamara yn nhalaith Bihar pan gafodd nifer o bobl eu taro gan y trên.

Mae adroddiadau eraill yn awgrymu bod tua 40 o bobol wedi cael eu hanafu yn dilyn y ddamwain a ddigwyddodd yn gynharach heddiw.

Dywedodd Dinesh Chandra Yadav fod gyrrwr y trên wedi cael ei lusgo o’i gerbyd gan dorf a’i guro i farwolaeth a bod rhai o’r cerbydau wedi cael eu rhoi ar dân. 

Does dim cadarnhad eto beth arweiniodd at y ddamwain.