Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth ar ôl damwain ddifrifol ym Mryncoch, Pen y Bont ar Ogwr, yn ystod oriau man y bore.
Fe gafodd dau ddyn eu hanafu’n ddifrifol, ond mae’r ffordd newydd gael ei hagor eto.
Gadawodd car Ford Ka du ffordd yr A4061 ger y camera cyflymder ym Mryncoch, toc wedi 1.15 y bore gan daro â garej tŷ cyfagos.
Cafodd dau ddyn lleol a oedd yn teithio yn y car anafiadau difrifol ac fe gawson nhw’u cymryd i Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Roedd y ffordd wedi’i chau am saith awr tra oedd yr heddlu yn ymchwilio i’r ddamwain a symud y cerbyd.
Gwybodaeth
Mae’r heddlu’n annog unrhyw un a oedd yn dyst i’r ddamwain gysylltu â nhw drwy ffonio Uned Plismona Ffyrdd Heddlu De Cymru ar 101 neu Taclo’r Tacle’n ddi-enw ar 0800 555 111.