Mae cyfreithwyr wedi rhybuddio pobol sy’n defnyddio gwefannau cymdeithasol y gall eu negeseuon gael eu defnyddio mewn achosion llys yn dystiolaeth yn eu herbyn.
Mae’r rhybudd yn dod ar ôl achos llys yn yr Unol Daleithiau pan gafodd cyhuddiad o ddynladdiad ei droi’n gyhuddiad o lofruddiaeth oherwydd negeseuon ar y wefan Twitter.
Yn ôl un bargyfreithiwr amddiffyn, mae’r heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron hyd yn oed yn defnyddio’r gwefannau i gasglu tystiolaeth.
“Mae yna naïfrwydd, meddai Mark McDonald. “Mae pobol yn credu y gallan nhw ddweud pethau ar y cyfryngau cymdeithasol ac na fydd hynny’n cael ei ddefnyddio yn eu herbyn.”
Yn yr achos yn yr Unol Daleithiau, fe gafodd dyn ifanc ei gyhuddo o lofruddiaeth ar ôl taro beiciwr gyda’i gar – roedd wedi brolio mewn negeseuon trydar am yrru’n gyflym.