Mae heddlu Sbaen wedi codi amheuon ynglyn â stori dwy ferch gafodd eu harestio ym Mheriw am smyglo’r cyffur cocên.
Mae’r heddlu’n amau eu fersiwn nhw o’r gwirionedd, lle maen nhw’n dweud iddyn nhw gael eu gorfodi i gario’r cyffur gan giang o ddynion arfog.
Mae Melissa Reid a Michaella McCollum Connolly yn dweud iddyn nhw gael eu gorfodi i wneud y siwrnai o ynys wyliau Ibiza yn Sbaen – lle’r oedden nhw wedi bod yn gweithio mewn bar.
Maen nhw’n dweud iddyn nhw gael eu dilyn gan aelodau o giang ar hyd y daith, a bod y rheiny’n rhybuddio y bydden nhw’n eu lladd nhw a’u teuluoedd pe na baen nhw’n codi’r cyffuriau ac yn eu cario i Dde America.
Ond mae pennaeth yr uned heddlu yn Ibiza wedi dweud yn gyhoeddus nad yw’n credu fod y ddwy wedi cael eu gorfodi i weithredu.
Yn ôl y rhingyll Alberto Arian Barilla, dyw stori’r merched ddim yn un gredadwy.