Mae pedwar o ddinasyddion Iwerddon wedi’u dal yn gaeth mewn mosg yn yr Aifft – ac maen nhw’n poeni y byddan nhw’n dod dan ymosodiad os y byddan nhw’n gadael.
Mae’r tair dynes a’r plentyn yn ei arddegau yn blant i Hussein Halawa – sef Imam mosg fwya’ Iwerddon, yn ninas Dulyn.
Fe aeth y pedwar, sydd ar eu gwyliau yn yr Aifft, i’r mosg er mwyn cael noddfa, wedi i 80 o bobol gael eu lladd yn ystod gwrthdaro ffyrnig rhwng cefnogwyr y cyn-arlywydd, Mohammed Morsi, a’r lluoedd diogelwch yn Cairo ddoe.
Mae Omaima Halawa, 21, yn yr Aifft gyda’i chwiorydd, Somaia, 27, a Fatima, 23, yn ogystal â’u brawd 17 oed, Ibrihim, 17.
“Mae’r mosg wedi’i hamgylchynu o bob cyfeiriad,” meddai Omaima wrth RTE.
“Fe dorrodd y lluoedd diogelwch i mewn i’r mosg, a thaflu nwy aton ni.”