Mae 32 o bobl wedi marw ar ôl i fomiau ceir ffrwydro ar hyd a lled Baghdad.
Roedd un ffrwydryn, a laddodd 8 ac anafu 18, wedi ei osod mewn car ger gorsaf fysiau yn ardal ogleddol Baghdad, sy’n gartre i Fwslemiaid Shiaidd y brifddinas.
Lladdwyd chwech arall wrth i gar ffrwydro ger swyddfeydd y llywodraeth ac fe laddwyd saith wedi ffrwydrad ger swyddfa heddlu traffic yn nwyrain y brifddinas.
Does neb wedi hawlio cyfrifoldeb hyd yn hyn ond mae lle i gredu mai eithafwyr Mwslimaidd Swnni sy’n gyfrifol.
Mae nifer yr ymosodiadau yn Irac wedi cynyddu’n sylweddol ers i’r llywodraeth ddwyn mesurau diogelwch llym yn erbyn aelodau o wersyll protest Swnni ym mis Ebrill.
Mae dros 3,000 wedi marw yn ystod y terfysg ers hynny ac mae yna bryder y gall y sefyllfa rhwng cefnogwyr carfannau’r Swnni a Shiaidd arwain at derfysg difrifol debyg i’r hyn ddigwyddodd rhwng 2006 – 7.