Mae uwch swyddog yn y Swyddfa Dramor wedi dweud wrth lysgennad yr  Aifft ym Mhrydain bod Llywodraeth San Steffan yn “bryderus iawn” am ymateb yr awdurdodau yn yr Aifft i gefnogwyr y cyn-Arlywydd Mohammed Morsi.

Dywedodd Cyfarwyddwr Gwleidyddol y Swyddfa Dramor, Simon Gass, wrth y llysgennad eu bod yn “condemnio’r deunydd o rym” i glirio dau wersyll  protest ac yn galw am  “fwy o ymatal”.

Mae nifer swyddogol y rhai laddwyd yn ystod y gwrthdaro bellach wedi codi i 525 er bod arweinwyr Y Frawdoliaeth Fwslimaidd sy’n cefnogi Mohammed Morsi yn mynnu bod llawer mwy na hyn wedi cael eu yn y “gyflafan” ar strydoedd y brifddinas.

Mae yna gryn feirniadaeth o’r trais a ddefnyddiwyd ddoe wrth i lywodraeth dros-dro yr Aifft orchymyn yr heddlu i glirio protestwyr o ddau wersyll yn y brifddinas.

Cyhoeddodd y llywodraeth y bydd yna stad o argyfwng am fis yn Cairo oherwydd y trafferthion yno.