Fe fydd llysgenhadaeth Prydain yn Yemen yn aros wedi cau tan o leiaf ddiwedd yr ŵyl Fwslimaidd Eid, wrth i bryderon am ddiogelwch barhau.

Dywed y Swyddfa Dramor fod bygythiad difrifol o derfysgaeth ledled Yemen.

Roedd y llysgenhadaeth eisoes wedi cau dros y penwythnos, a’r Swyddfa Dramor wedi cynghori Prydeinwyr i adael y wlad ar unwaith.

Fe fydd 19 o lysgenadaethau America yn y byd Mwslimaidd hefyd yn aros wedi cau tan o leiaf weddill yr wythnos.

Cyhoeddodd llywodraeth America ddydd Gwener y byddai llysgenadaethau mewn dros 20 o ddinasoedd yn cau dros y penwythnos yn sgil rhybudd byd-eang am derfysgaeth.

Dywed llefarydd ar ran Adran Wladol y llywodraeth nad yw’r penderfyniad i beidio ag ailagor y llysgenadaethau’n arwydd o fygythiad newydd, ond yn hytrach o benderfyniad o gymryd cau i ddiogelu gweithwyr.

Fe fydd America’n ailagor eu llysgenadaethau yn Baghdad a Kabul heddiw, fodd bynnag.