Y Ty Gwyn yn Washington
Mi ddylai teithwyr fod yn wyliadwrus trwy gydol mis Awst yn ôl adrannau llywodraeth yr Unol Daleithiau am fod yna berygl o ymosodiad terfysgol gan al Qaida yn ystod y dyddiau nesaf.

Mae’r rhybydd yn un byd-eang ond yn ôl yr Americanwyr mae’r perygl mwyaf yn y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica gyda’r ymosodiad yn fwyaf tebygol o ddigwydd rhywle ar benrhyn Arabia.

Fe wnaeth llywodraeth yr Unol Daleithiau gyhoeddi ddoe y bydd yn cau pob un o’u llysgenhadaethau mewn gwledydd Mwslemaidd am ddiwrnod o leiaf o ddydd Sul ymlaen ar ôl derbyn gwybodaeth bod ymosodiad ar y gweill.

Mae dydd Sul yn ddiwrnod gwaith mewn gwledydd Mwslemaidd ond mae’n arferiad i bob llysgenhadaeth Americanaidd fod ar gau mewn rhannau eraill o’r byd.