Roy Watterson
Mae Roy Watterson, fu’n Llywydd y Cymry ar Wasgar yn Eisteddfod Bro Colwyn 1995, wedi marw yn ei gartref yn Sydney, Awstralia.
Roedd yn enwog am drefnu teithiau gan nifer o gorau o Gymru i Awstralia.
Ganwyd Roy yn Lerpwl ond yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac yntau’n 6 mlwydd oed, cafodd ei symud ynghyd â’i frodyr a’i chwiorydd i Lansannan.
Wedi’r rhyfel, pan ddaeth hi’n amser troi nôl i lannau Merswy, gwrthododd fynd adre ac fe gafodd ei fabwysiadu gan y gymuned yn Nyffryn Clwyd.
Symudodd i Awstralia pan oedd yn 17 mlwydd oed gan ddilyn gyrfa lwyddiannus iawn fel perfformiwr ar longau pleser oedd yn hwylio nôl a ’mlaen i’r Dwyrain pell.
Wedi blynyddoedd ar y leiners sefydlodd gwmni yn Awstralia er mwyn trefnu teithiau yno i sêr Prydeinig poblogaidd.
Roedd yn arfer llogi neuaddau yn Sydney a dinasoedd eraill o amgylch Awstralia, gan lwyfannu cyngherddau amser cinio gyda pherfformwyr oedd yn adnabyddus i’r Prydeinwyr oedd wedi symud i fyw i Awstralia wedi’r rhyfel.
Fe ddefnyddiodd yr elw i brynu teras cyfan o dai yn union gyferbyn â Thŷ Opera Sydney.
Yn ganol oed fe briododd â Yoka o Siapan a chael tri o blant – Carys ac yna efeilliaid, Alun ac Emlyn.
Mae’r newyddiadurwr a’r darlledwr Arwel Ellis Owen yn hannu o Lansannan ac roedd yn adnabod Roy Watterson yn dda, “Byddai yn arfer dod adre pob tro y byddai’r Eisteddfod yn y Gogledd.
“Yn ei gerdyn ’Dolig y llynedd, roedd yn edrych ‘mlaen at ddod adre i Lansannan ar gyfer Steddfod Dinbych.” meddai.