Mae BAFTA Cymru wedi cyhoeddi enwebiadau ar gyfer Gwobrau blynyddol noddedig gan Academi Brydeinig Cymru, sydd i’w cynnal yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd ar Fedi 29.
Mae 27 o gategorïau ar gyfer rhaglenni, crefft a pherfformiad i’w dyfarnu eleni i gydnabod rhagoriaeth mewn darlledu a chynhyrchu mewn ffilm a theledu yng Nghymru.
Bydd y seremoni yn cael ei chyflwyno gan y cyflwynydd teledu Matt Johnson a’r newyddiadurwraig Sian Lloyd.
Ymysg yr enwebiadau eleni mae drama deledu Stella, ffrwyth llafur yr awdures a’r actores Ruth Jones, sy’n derbyn 10 enwebiad gan gynnwys dau enwebiad unigol ar gyfer Ruth Jones. Mae’r enwebiadau ar gyfer yr actor gorau yn cynnwys y seren Hollywood Michael Sheen am ei berfformiad yn y ffilm am Bort Talbot, The Gospel of Us.
Mae’r actores Sara Lloyd-Gregory wedi ei henwebu am ei pherfformiad yn y ddrama Alys ar S4C ynghyd a Mali Harries am ei rôl fel Megan Evans yn nrama’r BBC, The Indian Doctor.
Bydd cyflwyniadau arbennig yn cael eu gwneud ar gyfer Gwobr Siân Phillips a Gwobr am Gyfraniad Eithriadol i Deledu ynghyd â Gwobr Torri Drwodd sy’n cydnabod rhai sydd wedi cael effaith sylweddol ar deledu neu ffilm yng Nghymru yn y flwyddyn ddiwethaf. Ymysg yr enwebiadau mae Meinir Gwilym a Gwion Lewis.
Dywedodd Alison Dowzell, Cyfarwyddwr BAFTA yng Nghymru, “Eleni fe gawsom fwy o geisiadau nag erioed o’r blaen ac yn ôl ein beirniaid roedd safon yr enwebiadau yn arbennig o uchel. Rydym yn falch i fedru dwyn ynghyd y cynrychiolwyr gorau o’r diwydiannau creadigol yng Nghymru er mwyn cydnabod yr amser, egni, penderfyniad a’r gwaith caled sy’n mynd i fewn i wneud a chynhyrchu cyfryngau creadigol, teledu a rhaglenni ffilm yma.”