Gwyl Lorient
Bydd yr Ŵyl Ryng-Geltaidd flynyddol yn cael ei chynnal yn Lorient, Llydaw dros y deng niwrnod nesaf ac eleni eto bydd cynrychiolwyr o Gymru yn cymryd rhan amlwg yng Ngŵyl Geltaidd fwyaf Ewrop.

Cynhaliwyd yr ŵyl am y tro cyntaf yn 1971 ac mae disgwyl i 700,000 o ymwelwyr fynd yno eleni.

Pob blwyddyn mae cynrychiolaeth o Lydaw, Iwerddon, Yr Alban, Cernyw, Ynys Manaw, Asturias a Galicia yng Ngogledd Sbaen ac Arcadia, rhanbarth Gogledd Dwyreiniol ac ynysoedd Canada yn heidio yno i i ddathlu diwylliannau Celtaidd traddodiadol a chyfoes.

Pafiliwn Cymru fydd prif ganolbwynt yr ŵyl o ran gweithgareddau Cymreig a Chymraeg.

Yn y pafiliwn bydd cyfle i flasu cynnyrch Cymraeg yn ogystal â darganfod mwy am Gymru fel cyrchfan wyliau.

Bydd John Griffiths, Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon Llywodraeth Cymru yn mynd i Lorient ar 3 a 4 Awst.

Dywedodd John Griffiths: “Mae’r Ŵyl Ryng-Geltaidd yn Lorient yn lwyfan wych i arddangos yr hyn sydd gan Gymru i’w gynnig.

“Braf yw gweld cynifer o’n perfformwyr a’n hartistiaid yn dod i Lorient, gŵyl sy’n rhoi cyfle iddynt berfformio ar lwyfan rhyngwladol a hefyd yn codi ymwybyddiaeth o Gymru ymhlith ein brodyr Celtaidd.”

Bydd eleni’n gweld y gynrychiolaeth fwyaf o Gymru yn Lorient ers 2008 gyda 14 o berfformwyr o Gymru yn perfformio. Mae’r rhain yn cynnwys 9Bach, Mabon Jamie Smith, Delyth Jenkins, DnA a Chôr Meibion Cwmbach.

Bydd llwyfan i’r byd ffasiwn yno hefyd gan gynnwys hetiau’r cynllunydd o Gymru, Robyn Coles. Mae hetiau Robyn Coles wedi ymddangos yn rhai o brif sioeau ffasiwn y byd ac maen nhw’n boblogaidd iawn ymysg aelodau’r Teulu Brenhinol.

Mae’r ŵyl yn cael ei chynnal yng nghanol tref Lorient ac mae dros 200 o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal gyda 5,000 o berfformwyr.