Y Pafiliwn
Bydd Cyngerdd Agoriadol Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a’r Cyffiniau yn cael ei gynnal heno, wrth i’r ŵyl ymweld â’r dref am y pedwerydd tro.

‘Caneuon Robat Arwyn’ yw thema’r cyngerdd agoriadol, a bydd y noson yn dwyn at ei gilydd Rhys Meirion, Côr Rhuthun a chôr arbennig o ferched oedran uwchradd y dalgylch i berfformio canueon y cyfansoddwr sydd yn wreiddiol o Ddyffryn Nantlle ond sydd wedi byw yn ardal Rhuthun ers blynyddoedd.

Dywedodd trefnydd yr Eisteddfod, Hywel Wyn Edwards, wrth golwg360, “Mae hen edrych ymlaen wedi bod yn lleol ar gyfer yr Eisteddfod ers bron i ddwy flynedd ac anodd credu ein bod ar drothwy’r cyngerdd agoriadol. Mae cyfraniad Robat Arwyn i gerddoriaeth Gymraeg yn amhrisiadwy a braf yw ei gael a rhai o ddoniau Dyffryn Clwyd yn agor Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a’r Cyffiniau heno.”

Bydd Robat Arwyn ei hun yn cymryd rhan yn y cyngerdd wrth gyfeilio ar gyfer y côr merched, dan arweiniad Leah Owen.

Ychwanegodd Hywel Wyn Edwards ar ddechrau’i Eisteddfod olaf fel trefnydd, “Bu’r corau a’r unawdwyr yn ymarfer yn y Pafiliwn neithiwr, ac mae heno’n argoeli i fod yn noson arbennig.”

Mae Robat Arwyn yn gyfrifol am gyhoeddi deg cyfrol o ganeuon a naw sioe gerdd gan gynnwys ‘Er Mwyn Yfory’, ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Meirion 1997. Sefydlodd driawd Trisgell yn 1983 ac ymunodd â Chôr Rhuthun yn 1981, cyn cael ei benodi fel cyfarwyddwr cerdd y côr yn 2008.

Bydd y cyngerdd yn cychwyn am 20.00 ym mhrif bafiliwn y maes.