Mae’r BBC wedi cyhoeddi ei bod am werthu ei chanolfan ddarlledu bresennol yng Nghaerdydd yn ystod hydref eleni a symud BBC Cymru Wales i ganolfan ddarlledu newydd rhywle arall yn y brifddinas erbyn 2018.

Fe allai olygu bod S4C yn dod i rannu’r un adeilad.

Dywed y BBC bod yr adeilad presennol yn Llandaf yn “cyrraedd diwedd ei oes” a bod anawsterau cynyddol o ran technoleg sy’n wynebu gwneuthurwyr rhaglenni yn y ganolfan.

Bydd y BBC yn ystyried nifer o safleoedd posib ar gyfer y datblygiad newydd ac mae’n gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a nifer o bartneriaid eraill “er mwyn sicrhau’r manteision economaidd a chreadigol mwyaf posibl yn sgil y symud.”

Dywedodd Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru Wales eu bod yn trafod gydag S4C “i weld a yw’n ymarferol i ni gydweithio yn y ganolfan newydd”.

‘Cynlluniau cyffrous’

Dywedodd Anne Bulford, Rheolwr Gyfarwyddwr Adnoddau a Chyllid y BBC: “Ry’n ni’n credu y gallai’r cynlluniau cyffrous yma gryfhau’n sylweddol rôl BBC Cymru Wales fel darlledwr cenedlaethol Cymru tra’n creu cyfleoedd newydd a chyffrous hefyd i’r sector creadigol a’r cyfryngau ehangach yng Nghymru.

“Mae’r adeilad yn Llandaf yn heneiddio ac yn amlwg yn dod i ddiwedd ei oes – ac mae’n bryd i ni edrych i’r dyfodol.

“Ry’n ni wedi gofyn i dîm BBC Cymru Wales weithredu ar gynlluniau manwl sy’n sicrhau’r elw gorau posibl ar fuddsoddiad o safbwynt creadigol ac economaidd. Mae’r cyfnod hwn yn un heriol yn ariannol, ac mae’n holl bwysig bod y cynlluniau terfynol yn gadarn ac yn fforddiadwy.”

Cydweithio gydag S4C

Dywedodd Rhodri Talfan Davies: “Mae’n newyddion gwych ac mae’n rhoi cyfle i ni ddatblygu canolfan ddarlledu newydd all weithredu fel sbardun go iawn ar gyfer y sector creadigol cyfan yng Nghymru.”

Ychwanegodd: “Ry’n ni hefyd yn parhau i drafod yn fanwl gydag S4C i weld a yw’n ymarferol i ni gydweithio yn y ganolfan newydd, ac ry’n ni’n ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am ei chefnogaeth barhaus yn y fenter strategol, bwysig hon.

“Mae profiad y BBC yn Salford yn amlwg yn dangos ein bod yn gallu chwarae rhan allweddol yn y gwaith o helpu i ddatblygu’r economi greadigol ehangach. Mae’r ganolfan newydd yng ngogledd Lloegr wedi dod â darlledwyr, prifysgolion a chwmnïau cynhyrchu digidol eraill at ei gilydd.

“Mae’n amgylchedd cyffrous sy’n annog cydweithio – ac mae’n fodel ry’n ni’n awyddus i’w efelychu yma yng Nghymru.”

Mae’r BBC wedi bod yn ystyried ei ofynion eiddo manwl yng Nghaerdydd ers i astudiaeth gychwynnol gael ei chymeradwyo ym mis Tachwedd 2011.