Mae Ysgrifennydd Tramor Rwsia wedi dweud nad yw Edward Snowden wedi cyrraedd y  wlad.

Fe wnaeth Sergey Lavrov y datganiad gan wrthod galwadau America i estraddodi Snowden, a oedd wedi datgelu rhai o gyfrinachau gwasanaethau cudd yr Unol Daleithiau.

Roedd Snowden wedi hedfan i Foscow o Hong Kong dros y penwythnos ac roedd disgwyl iddo hedfan i Giwba ddoe cyn teithio trwy Feneswela i Ecuador.

Ond dywedodd Sergey Lavrov heddiw nad yw Edward Snowden wedi croesi’r ffin i Rwsia a mynnodd nad oedd gan Rwsia unrhyw beth i’w wneud ag ef.

Credir bod datganiad Ysgrifennydd Tramor Rwsia yn awgrymu bod Edward Snowden dal yn y maes awyr a heb ddod i mewn i’r wlad yn swyddogol.

Roedd Ysgrifennydd Tramor Rwsia wedi beirniadu galwadau America i estraddodi Edward Snowden a’u rhybuddion o’r canlyniadau petai Moscow’n methu cydymffurfio.

Dywedodd Sergey Lavrov bod cyhuddo Rwsia o fynd yn “groes i gyfreithiau’r Unol Daleithiau a hyd yn oed o gynllwynio” o ran Snowden yn “gwbl ddi-sail ac yn annerbyniol”.