Mae’r Ceidwadwyr yng Nghymru wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o barhau i aros yn dawel ynglŷn ag Awema ac wedi galw am ddatganiad gweinidogol brys am roi arian cyhoeddus yng Nghymru.
Wythnos diwethaf, roedd adroddiad Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad yn feirniadol o’r modd yr oedd Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â sefyllfa Awema (Cymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan) a bod ’na “ddiffygion rheoli grantiau”.
Dywedodd yr adroddiad fod “diffyg cyfathrebu neu gydgysylltu yn aml rhwng yr adrannau sy’n gyfrifol am grantiau Llywodraeth Cymru.”
Mae Awema bellach wedi dod i ben fel corff, yn dilyn honiadau o gamweinyddu ariannol.
Derbyniodd y corff dros £7 miliwn dros gyfnod o 11 o flynyddoedd.
‘Distawrwydd llethol’
Roedd adroddiad blaenorol i berthynas Swyddfa Archwilio Cymru ag Awema hefyd wedi amlygu perfformiad gwan gan y Llywodraeth o ran rheoli a chydlynu cyllid y corff.
Er gwaethaf yr adroddiadau hyn, mae’r Ceidwadwyr wedi lleisio pryder nad yw gweinidogion y Llywodraeth wedi gwneud datganiad ar y mater.
Dywedodd llefarydd cyllid y Ceidwadwyr yng Nghymru, Paul Davies AC bod “distawrwydd llethol o gyfeiriad Llywodraeth Carwyn Jones am Awema ers y diwrnod cyntaf.
“Mae’n briodol bod trethdalwyr yn holi a yw’r defnydd o arian cyhoeddus yn cael ei gymryd o ddifrif ac rwy’n annog y Prif Weinidog i gyflwyno datganiad yr wythnos hon.”
Mae hefyd wedi galw ar Carwyn Jones i ymddiheuro am fethiannau’r Llywodraeth wrth ddelio gydag Awema.
“Mae angen ymddiheuriad a gwarant bod gwersi wedi cael eu dysgu,” meddai.