Nelson Mandela
Mae ’na bryder cynyddol am gyflwr Nelson Mandela heddiw ar ôl i’w iechyd ddirywio dros nos.
Yn ôl llywodraeth De Affrica mae mewn cyflwr difrifol.
Mae’r Arlywydd Jacob Zuma wedi ymweld â Mandela, sy’n 94 oed, yn yr ysbyty ac wedi cael gwybod gan feddygon bod ei gyflwr bellach yn ddifrifol.
Dywedodd bod y meddygon yn gwneud popeth posib i’w wella ac yn sicrhau bod Mandela yn gyfforddus ac yn cael y gofal gorau.
Ychwanegodd bod rhaid i’r wlad ddod at ei gilydd i weddïo dros Nelson Mandela.
Roedd Jacob Zuma wedi cwrdd â gwraig y cyn-arlywydd, Graca Machel, yn yr ysbyty yn Pretoria.
Mae Nelson Mandela wedi bod yn yr ysbyty ers 8 Mehefin pan gafodd ei gludo yno gyda haint ar ei ysgyfaint.
Credir fod y cyn arlywydd ac enillydd Gwobr Heddwch Nobel wedi dioddef niwed i’w ysgyfaint wrth weithio mewn chwarel carchar.
Cafodd twbercwlosis yn y 1980au pan oedd yn y carchar ar Ynys Robben.
Roedd Nelson Mandela wedi ymddeol o fywyd cyhoeddus yn 2004 ac anaml mae wedi cael ei weld mewn digwyddiadau swyddogol ers hynny.