Giat Chang Men, Un o olygfeydd amlycaf Suzhou (CCA 3.0)
Mae ffrwydrad wedi dymchwel adeilad tri llawr yn Tseina gan ladd o leiaf 11 o bobol.
Credir bod y ffrwydrad wedi cael ei achosi gan nwy yn gollwng.
Digwyddodd y ffrwydrad mewn caffi gweithiwr i gwmni gwerthu nwy yn Suzhou, dinas i’r gorllewin o Shanghai, yn ôl yr asiantaeth newyddion Xinhua.
Mae naw o bobol yn cael eu trin mewn ysbytai yn ôl adroddiadau.