Y culfor yn llawn siarcod
Mae merch o Awstralia yn anelu i fod y person cyntaf i nofio ar hyd Culfor Fflorida, o Giwba i Fflorida, heb gawell amddiffynnol.
Mi fydd Chloe McCardel, 29, yn wynebu cerrynt y môr, sglefrod môr a siarcod wrth geisio cyflawni’r her.
Bydd arbenigwyr a meddygon gyda hi wrth iddi nofio’r 100 milltir, a ddylai gymryd 55-65 awr i’w cwblhau.
Bydd ganddi offer arbennig, gan gynnwys maes electromagnetig yn y dŵr o’i chwmpas er mwyn cadw siarcod draw.
Eisoes, mae hi wedi croesi Môr Hafren chwe gwaith ar ei phen ei hun, croesiad dwbl yn 2010 a 2012, ac enillodd Farathon 28.5 milltir Ynys Manhattan yn 2010.