Dau gais i'r Cymro, George North
Fe roddodd y Llewod grasfa i dîm Combined Country XV heddiw wrth sgorio 10 cais yn Stadiwm Hunter i gyrraedd sgôr terfynol o 64-0.
Roedd gan y tîm cartref chwaraewyr rhan-amser, gan gynnwys trydanwr, prentis o blymwr a myfyriwr meddygaeth, ac fe welwyd y gwahaniaeth rhyngddyn nhw â’r tîm o athletwyr proffesiynol.
Sgoriodd George North ddau gais yn yr hanner cyntaf, ac fe wnaeth nifer o Gymry eraill sgorio i’r Llewod – Alex Cuthbert, Richard Hibbard, Leigh Halfpenny a Jonathan Davies yn sgorio cais yr un.
Cafodd Connor Murray, Sean O’Brien, Stuart Hogg a’r capten Brian O’Driscoll geisiau hefyd wrth i’r Llewod orffen gyda 10 cais.
Trosodd Hogg bedwar cais, a throsodd Halfpenny dri chais.
Tipuric ar dân
Roedd y blaenasgellwr, Justin Tipuric ar dân unwaith eto, ac mi fydd ei berfformiad heddiw yn cadw rhywfaint o bwysau ar y capten, Sam Warburton.
Er y sgôr, gwelwyd nifer o gamgymeriadau gan y Llewod, yn enwedig pan ddaethon nhw o dan bwysau, a gydag ychydig mwy o lwc, fe allai’r Combined Country XV fod wedi sgorio cais cysur.
Ond mae gan y Llewod record 100% hyd yn hyn ar y daith yn Awstralia, er bod modd cwestiynu safon y gwrthwynebwyr hyd yma, gan fod y Llewod wedi sgorio 214 pwynt a 28 cais.
Yr unig wrthwynebwyr sydd wedi rhoi prawf go iawn iddyn nhw mor belled yw’r Queensland Reds ddydd Sadwrn diwethaf.
Mi fydd y Llewod yn wynebu New South Wales Waratahs yn Sydney ddydd Sadwrn, cyn herio’r ACT Brumbies yn Canberra ddydd Mawrth nesaf.