Shaun Edwards gyda Warren Gatland
Mae is-hyfforddwr Cymru, Shaun Edwards wedi dweud ei fod e’n disgwyl perfformiad gwell gan Gymru yn yr ail brawf yn erbyn Japan yn Tokyo ddydd Sadwrn.

Enillodd Cymru yn y prawf cyntaf o 22-18 wrth iddyn nhw fethu ag ymgyfarwyddo â’r gwres.

Ond mae Edwards wedi annog ei garfan ifanc i ddysgu o’r profiad wrth iddyn nhw anelu am wythfed fuddugoliaeth o’r bron am y tro cyntaf ers i Edwards ymuno â’r tîm hyfforddi chwe blynedd yn ôl.

Dywedodd Edwards: “Ers i fi fod yma, rydyn ni bob amser wedi tueddu i wella yn yr ail brawf neu wrth i dwrnamaint fynd yn ei flaen.

“Rydyn ni wedi gweld ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ac yng Nghwpan Rygbi’r Byd bod y tîm yn mynd o nerth i nerth a gobeithio mai dyna fydd yn digwydd ar y daith hon hefyd.

“Does dim sicrwydd ond dyna’r cynllun yn sicr.”

Mae Cymru’n bwriadu gofyn i’r dyfarnwr, Greg Garner cyn y gêm a fydd dyfarnwr fideo ar gael.

Sgoriodd Japan gais dadleuol yn y prawf cyntaf yn Stadiwm Kintetsu Hanazono, a doedd dim dyfarnwr fideo ar gael i wirio’r penderfyniad.

Doedd Cymru ddim yn ymwybodol nad oedd dyfarnwr fideo ar gael hyd nes i Dan Biggar ofyn i’r dyfarnwr wirio a oedd ei gic gosb yn llwyddiannus ar ôl 26 o funudau, ar ôl i’r llumanwyr ddweud nad oedd hi’n gic lwyddiannus.

Ychwanegodd Shaun Edwards: “Byddwn ni’n cwrdd â’r dyfarnwr yn y dyddiau nesaf a bydd rhaid i ni gael eglurhad o’r sefyllfa gan ei fod e’n syndod mawr yr wythnos diwethaf.

“Roedd y bois yn eitha grac am gais Japan ond wnaethon nhw ddim meddwl amdanyn nhw eu hunain fel dioddefwyr. Fe gadwon nhw eu pennau, fe ddangoson nhw ffitrwydd gwych yn yr amodau poeth ac fe gaethon nhw fuddugoliaeth wych.”