Mae’r Dreigiau wedi penodi Lyn Jones yn Gyfarwyddwr Rygbi.

Cyhoeddodd yr wythnos hon ei fod yn gadael Cymry Llundain er mwyn dychwelyd i Gymru.

Cafodd y tîm gryn ganmoliaeth er iddyn nhw ddisgyn o Uwch Adran Aviva i’r Adran Gyntaf ar ddiwedd y tymor.

Un o brif gyfrifoldebau Jones fydd cryfhau’r Dreigiau fel nad ydyn nhw’n wynebu tymor arall tua gwaelod tabl RaboDirect Pro 12 unwaith eto.

Ond fydd hi ddim yn hawdd ar ôl i’r rhanbarth golli Luke Charteris, Aled Brew a Dan Lydiate i glybiau yn Ffrainc.

Fe fydd Darren Edwards yn parhau yn ei swydd fel prif hyfforddwr, tra bod y cyn-Gyfarwyddwr Rygbi, Robert Beale wedi cael ei benodi’n rheolwr y tîm.

Mae’r is-hyfforddwr Rob Appleyard wedi gadael y rhanbarth.

Dywedodd cadeirydd y Dreigiau, Martyn Hazell: “Roedd y tymor diwethaf yn un anodd i ni yn y rhanbarth, ond wedi i ni roi trefn ar ein harian, rydyn ni’n edrych ymlaen at adeiladu ein tîm ar gyfer y dyfodol.

“Ar ôl arwyddo rhai chwaraewyr allweddol rhwng y tymhorau, rydyn ni’n hyderus bod gan Lyn y profiad a’r arbenigedd i gefnogi ein tîm hyfforddi a sicrhau ein bod ni’n cael y gorau gallwn ni allan o’n grŵp o chwaraewyr ifanc a dawnus.”