Mae tîm Cymru wedi cyrraedd Tokyo, lle bydd angen gwell perfformiad ganddyn nhw ddydd Sadwrn nesaf yn yr ail a’r olaf o gemau prawf eu taith yn Japan.
Fe fu’n rhaid iddyn nhw weithio’n galed i guro Japan o 22 i 18 yn eu gêm brawf gyntaf yn Osaka ddoe.
Gyda chymaint o chwaraewyr arferol Cymru yng ngharfan y Llewod, roedd y tîm ddoe’n cynnwys saith a oedd yn ennill eu cap cyntaf.
Ond yn ôl Liam Williams, a enillodd ei bedwerydd cap fel cefnwr Cymru ddoe, fe fydd y chwaraewyr newydd wedi dysgu llawer o’u profiad.
“Rydych chi’n dysgu mwy o gemau caled pan ydych chi o dan bwysau fel hyn, i ffwrdd o gartref ac yn chwarae o dan amodau fel hyn na thrwy ennill o 60 pwynt,” meddai. “Fe fydd y profiad hwnnw o fudd i bawb.
“Ond fe wyddon ni fod angen inni wella pob agwedd o’r gêm.”
Un o sêr y gêm
Roedd cefnwr y Scarlets yn un o sêr tîm Cymru ddoe, trwy lwyddo ddwywaith i rwystro Japan rhag sgorio ceisiau, a chwarae rhan allweddol yn unig gais Cymru.
“Fe wnaeth Japan chwarae’n wirioneddol dda,” meddai Liam Williams. “Fe wnaethon nhw gicio mwy nag oedden ni wedi feddwl a’n rhoi ni o dan lawer o bwysau.
“Roedden nhw wedi cynllunio’n dda ac wedi dal ati a chwarae gêm lydan agored.
“Rydyn ni’n hapus o ennill, ond dim ond hanner amser yw hyn gan fod gennym job i’w wneud y penwythnos nesa’n ogystal.”