Ciciau Dan Biggar a sicrhaodd y fuddugoliaeth i Gymru
Mae Cymru wedi ennill eu gêm brawf gyntaf yn erbyn Japan o 22 i 18 yn stadiwm Kintetsu Hanazono.

Ciciau cosb a sicrhaodd y fuddugoliaeth, fodd bynnag, gan mai un cais yn unig a gafodd Cymru, gan Harry Robinson yn yr ail hanner.

Er i Japan sgorio dau gais, a bod ar y blaen am y rhan fwyaf o’r gêm, fe wnaeth pedair cic gosb a throsiad gan Dan Biggar, a chic gosb arall gan Rhys Patchell, sicrhau’r pwyntiau angenrheidiol i Gymru.

Fe aeth Japan ar y blaen gyda chic gosb ar ôl 14 munud, ac un arall wedi 20 munud, ond llwyddodd Biggar i lefelu’r sgôr gyda dwy gic gosb hanner awr i mewn i’r gêm.

Fe wnaeth Michael Broadhurst sgorio’r cais cyntaf i Japan ar ddiwedd yr hanner cyntaf, ond methodd Ayumu Goroumaru â’i throsi.

Wedi dwy gic gosb arall gan Biggar, roedd Cymru ar y blaen am y tro cyntaf erbyn i awr o’r gêm fynd heibio, ac wrth i Gymru gynyddu ei hyder rasiodd Robinson yn glir o 25 metr i sgorio’i gais.

Cafodd y cais ei drosi gan Biggar i roi Cymru 19-11 ar y blaen, ond daliodd Japan ati, gyda Yoshikazu Fujita yn sgorio cais ddeng munud cyn y diwedd.

Wrth i Goroumaru ei drosi dim ond un pwynt oedd ynddi cyn i Patchell sgorio cic gosb ar y 78fed munud i sicrhau’r fuddugoliaeth ddi-fflach i Gymru.