Gethin Jenkins (llun swyddogol y Llewod)
Fe fydd prop Cymru, Gethin Jenkins, yn cychwyn yn ôl adref o Awstralia yfory ac yn colli gweddill taith y Llewod.

Roedd anaf i’w goes yn ei rwystro rhag chwarae yn y gêm heddiw yn erbyn Queensland Reds, ond roedd wedi gobeithio am le yn y gemau prawf yn erbyn Awstralia ymhen pythefnos.

Ond dywedodd meddyg tîm y Llewod, James Robson, ei bod hi’n debyg o gymryd o leiaf dair wythnos iddo wella o’r anaf.

“O ystyried faint o amser sydd ar ôl, roedden ni o’r farn y dylai Gethin ddychwelyd adref a pharhau i wella yno,” meddai.

Mae prop Iwerddon, Cian Healy, hefyd yn gorfod mynd adref ar ôl dioddef anaf yn y gêm fuddugol yn erbyn Western Force yn Perth ddydd Mercher.