Byddai Phil Vickery, cyn-brop Lloegr, yn fodlon gweld tîm yn llawn Cymry yn cynrychioli’r Llewod, os mai dyna fyddai’r tîm gorau i drechu Awstralia.

Ar ôl cael dwy fuddugoliaeth gymharol rwydd, hyd yn hyn, bydd gêm tipyn anoddach yn gwynebu’r Llewod yfory yn erbyn y Queensland Reds yn Brisbane.

Mae’r cyfryngau yn Awstralia wedi galw carfan bresennol y Llewod yn ‘Llewod Cymru ac Iwerddon’ ac efallai na fydd yr un Sais yn dechrau’r gêm brawf gyntaf ymhen pythefnos.

Nid yw hi’n ddim syndod i Vickery, a ennillodd bump o gapiau ar deithiau’r Llewod yn 2001 a 2009, bod nifer o’r pymtheg Cymro sydd ar y daith bresennol wedi dechrau’n dda.

‘‘Yr wyf wedi cael dipyn o sylw am fy sylwadau am bresenoldeb y Cymry yn y garfan, ac er fy mod yn Sais balch, yr wyf yn falch o rygbi hemisffer y gogledd hefyd,” meddai Vickery.

“Y gwir yw mae nifer o Gymry yn y garfan am eu bod yn chwaraewyr da ac yn haeddu eu lle.  Maen nhw wedi chwarae yn dda ac yn gyson.

‘‘Mae’r Cymry yn fechgyn da, ac nid oes neb yn well am gymysgu â nhw.  Nid oes yr un Cymro yn y garfan nad sy’n haeddu ei le, a’r cam nesaf nawr yw cyfiawnhau eu dewis.  Ni fydd y Llewod yn dioddef yn erbyn Awstralia oherwydd record gwael Cymru yn eu herbyn.  Fel un a gollodd yn erbyn timau fel Awstralia a Seland Newydd, yr ydych am wneud yn well y tro nesaf,’’ ychwanegodd Vickery.

Quade Cooper fydd yn arwain y Reds a bydd naw chwaraewr rhyngwladol yn eu tîm fydd yn dechrau yfory.