Dai Greene
Mae Dai Greene wedi dweud bod gwell i ddod ganddo’r tymor hwn, ar ôl gorffen yn bumed yn ras y 400m dros y clwydi yn y Gynghrair Ddiemwnt yn Rhufain.

Gorffennodd y Cymro y ras mewn 48.81 eiliad, sy’n record Prydeinig, wrth iddo gael ei guro gan yr Americanwr Jonny Dutch (48.31).

Mae paratoadau Greene ar gyfer y tymor wedi cael eu heffeithio gan lawdriniaeth ddwbwl i’r torllengig ym mis Mawrth.

Dywedodd: “Wnes i blymio’n syth i mewn i’r ochr ddwfn.

“Rwy’n hoffi cystadlu yn erbyn y bois gorau gan ei fod yn dangos lle rydych chi a dyna’n fras lle’r o’n i’n disgwyl bod.

“Fe ges i aeaf da o ymarfer cyn y llawdriniaeth ar y llengig a rhyw hanner ffordd drwodd, wnes i sylweddoli pa mor galed ges i hi’r llynedd ac rwy’n falch i fi wthio drwyddo fe.

“Doedd y llawdriniaeth ar y llengig ddim yn ddifrifol iawn ond fe wnes i golli tipyn o ymarfer.

“Dw i ddim wedi gwneud cymaint â hynny dros y clwydi a dyna pham wnes  i bylu ychydig.”

Dywedodd ei fod e’n fodlon gyda’i amser.

“Ro’n i heb anafiadau cyn y llawdriniaeth ac mae digon o amser i gael fy nghyflymdra nôl.

“Mae digon o amser i wella.”