Torrodd India’r record byd am y sgôr undydd rhyngwladol gorau yng Nghaerdydd ddoe, wrth iddyn nhw drechu De Affrica yng ngêm agoriadol Tlws Pencampwyr ICC.
Sgoriodd Shikhar Dhawan ei ganred cyntaf mewn criced undydd rhyngwladol, wrth i’r Indiaid guro’r Proteas o 26 rhediad yng Ngrŵp B.
Dewisodd De Affrica faesu ar ôl ennill y tafliad.
Sgoriodd Dhawan, oedd wedi cynrychioli Sunrisers Hyderabad yn yr IPL yn ddiweddar, 114 oddi ar 94 o belenni.
Ymhlith y sgorwyr eraill roedd Rohit Sharma (65) a Ravindra Jadeja (47).
Dechreuodd y batiad yn wael i Dde Affrica, wrth iddyn nhw gyrraedd 31-2 oddi ar 3.5 o belawdau.
Ond daeth sefydlogrwydd wrth i AB De Villiers (70) a Robin Peterson (68) ddangos eu doniau mewn batiad ffyrnig, cyn i’w gobeithion o ennill bylu eto ar ôl i’r ddau golli eu wicedi.
Cafodd Peterson a De Villiers bartneriaeth o 50 oddi ar 40 o belenni wrth i’r Proteas gyrraedd 77 oddi ar 10 pelawd.
Pasiodd y ddau sgôr o hanner canred yr un cyn i Peterson gael ei redeg allan gan Ravindra Jadeda, oedd yn un o faeswyr mwyaf cyson India trwy gydol y batiad, gan ddod â phartneriaeth o 124 i ben.
Wrth i Dde Affrica gyrraedd 187-6, dim ond y bowlwyr oedd ar ôl i fatio, ac fe fu’n rhaid i Morne Morkel fatio heb redwr oherwydd newid i’r rheolau.
Cafodd y Proteas eu bowlio allan am 305 oddi ar belawd olaf y batiad, er gwaethaf ymdrechion dewr Ryan McLaren, a sgoriodd 71 heb fod allan.
Daeth cadarnhad heddiw y bydd Morkel yn methu gweddill y gystadleuaeth oherwydd yr anaf i’w goes.
Fe fu’n rhaid iddo adael y cae ar ôl bowlio 6.5 pelawd yn unig.
Roedden nhw eisoes heb eu bowliwr cyflym arall, Dale Steyn.