Mae Barack Obama wedi gwneud hwyl am ei ben ei hun, yn ystod araith i lond ystafell o newyddiadurwyr yn y Tŷ Gwyn.

Fe wnaeth hwyl am ben y ffordd yr aeth o fod yn “Sosialydd Mwslimaidd ifanc, tanbaid” i fod yn olffiwr wedi ymddeol.

Fe ddefnyddiodd Barack Obama ginio blynyddol Cymdeithas Gohebwyr y Tŷ Gwyn er mwyn gwneud hwyl am ei ben ei hun a’i gyfoedion gwleidyddol.

Roedd yn gofyn, tybed a ydi hi’n bosib bod â’ch traed ar y ddaear ar ôl treulio pedair blynedd yn ddyn mwya’ pwerus y byd?

Fe ddaeth i mewn i’r ystafell i gyfeiliant y rap ‘All I Do Is Win’ gan DJ Khaled. Fe ddechreuodd ei araith yn cyfeirio at y newidiadau radical y gallai eu gwneud yn ystod ei ail dymor.

Ond yna, fe ddangosodd lun ohono’i hun yn chwarae golff ar glawr-gwneud o’r cylchgrawn Senior Leisure.

“Nid y Sosialydd Mwslimaidd ifanc, tanbaid, yr o’n i’n arfer bod ydw i bellach,” meddai.