Mae ymchwilwyr yn ceisio darganfod pam y cwympodd awyren fechan i’r ddaear ger canolfan filwrol yn Lloegr ddoe, gan ladd y peilot.

Fe blymiodd yr awyren i’r ddaear ger Canolfan Awyr y Fyddin yn Middle Wallop, Hampshire toc cyn 5 o’r gloch brynhawn ddoe. Doedd hi ddim yn awyren filwrol, ac fe fu’r peilot – yr unig berson ar ei bwrdd – farw yn y fan a’r lle.

“Mae’r heddlu’n gweithio ar hyn o bryd gyda’r awdurdodau priodol er mwyn ceisio darganfod achos y ddamwain hon,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Hampshire.