Mae 70 o bobol wedi’u lladd ar ôl i adeilad ddymchwel ym mhrifddinas Bangladesh, Dhaka.

Cafodd mwy na 600 o bobol eu hachub o’r adeilad wyth llawr yn dilyn y digwyddiad y bore ma ond credir bod mwy o bobl yn dal yn gaeth yn y rwbel.

Mae nifer o ffatrïoedd dillad wedi’u lleoli yn yr adeilad.

Ym mis Tachwedd y llynedd cafodd 112 o bobl eu lladd mewn tan mewn ffatri ddillad ym Mangladesh gan godi pryderon am ddiogelwch yn y  ffatrïoedd yno.

Mae Bangladesh, sydd ag oddeutu 4,000 o  ffatrïoedd dillad, yn allforio’r dillad i gwmniau yn y Gorllewin.