Mae disgwyl i’r Undeb Ewropeaidd gyhoeddi canlyniadau profion gafodd eu cynnal er mwyn darganfod a oedd olion cig ceffyl a’r cyffur bute wedi eu cynnwys mewn prydau parod.

Ym mis Chwefror roedd gweinidogion yr UE wedi cytuno i gynnal 2,500 o brofion ar hap ar fwydydd parod yn dilyn pryderon bod cig ceffyl wedi ei gynnwys mewn bwydydd oedd wedi eu labelu fel cig eidion.

Roedden nhw hefyd wedi cytuno i gynnal 4,000 o brofion am olion bute sy’n cael ei ddefnyddio fel cyffur lladd poen ar gyfer ceffylau, ond sy’n gallu peri risg i bobl.

Mae disgwyl i’r canlyniadau gael eu cyhoeddi ym Mrwsel am 11 y bore ma.

Daw’r cyhoeddiad wrth i Lywodraeth Prydain gyhoeddi y bydd yn cynnal adolygiad eang i’r sgandal cig ceffyl er mwyn  adfer hyder cwsmeriaid yn y bwyd maen nhw’n ei brynu.