Mae un o amgueddfeydd enwoca’r byd wedi gorfod cau heddiw o achos fod staff wedi cynnal streic yn erbyn lladron poced.
Mae’r Louvre ym Mharis yn denu tua 30,000 o ymwelwyr bob dydd ond mae gweithwyr yn anniddig am “y lladron poced sy’n fwy ac yn fwy niferus ac ymosodol” meddai llefarydd undeb. Mae’r amgueddfa yn gartref i weithiau celf megis y Mona Lisa ac mae gweithwyr yn cwyno fod gangiau o ladron poced, rhai ohonyn nhw’n blant, yn crwydro’r orielau eang.
Mae’r Louvre wedi cydnabod fod dwyn o bocedi yn broblem gynyddol yno a’u bod nhw’n cydweithio gyda’r heddlu ac yn ceisio atal y troseddwyr cyson rhag dod i mewn.
Mae nifer o ymwelwyr o dramor wedi cael eu siomi gan y drysau caeedig heddiw, ac nid yw’n sicr pryd y bydd y drysau yn ail-agor nesaf.