Mae Dŵr Cymru wedi cael gorchymyn gan dribiwnlys i dalu £2m o iawndal i gwmni dŵr o Loegr ar ôl dadl hir dros werthu dŵr i felin bapur ar y ffin.

Mewn achos sy’n dyddio o 1999 roedd Albion Water wedi apelio i’r tribiwnlys cystadleuaeth gan honni fod Dŵr Cymru wedi gosod prisiau annheg arnyn nhw er mwyn darparu dŵr i felin bapur Shotton, Sir y Fflint. Roedd Albion Water wedi gorfod defnyddio rhwydwaith Dŵr Cymru i gyrraedd y felin bapur, sydd ar ochr Cymru i’r ffin.

Roedd Albion Water wedi ceisio am £3.5m o iawndal a dirwy o £10m i Ddŵr Cymru er mwyn gosod esiampl i weddill y diwydiant.

Gwrthododd y tribiwnlys y cais am ddirwy ond cytunon nhw y dylai Dŵr Cymru dalu iawndal o £1.6m i Albion Water am iddyn nhw fod ar eu colled, a £160,000 am fod Albion Water wedi colli’r cyfle i ddarparu i waith dur cyfagos.

Roedd y rheoleiddiwr dŵr OFWAT wedi ochri gyda Dŵr Cymru yn wreiddiol ond mae Cadeirydd Albion Water, Jerry Brian, wedi dweud heddiw eu bod nhw wedi cael eu camarwain gan y “monopolydd dilornus,” Dŵr Cymru.

Ymateb Dŵr Cymru

Mae Dŵr Cymru wedi dweud nad oedd ymgais bwriadol i osod prisiau annheg a bod y cwmni wedi ymddwyn yn unol â chanllawiau OFWAT. Dywedodd llefarydd:

“Mae’n bwysig nodi bod yr achos gan Albion Water Limited yn erbyn Dŵr Cymru Welsh Water yn gysylltiedig â chais i ddefnyddio ein rhwydwaith dosbarthu nôl yn 2001, sef y cais cyntaf o’i fath yng Nghymru a Lloegr.

“Roedd hefyd cyn i Glas Cymru gaffaelio’r Cwmni a’i sefydlu fel cwmni ‘nid er elw’ ar ran ein cwsmeriaid a chenedlaethau’r dyfodol.

“O ganlyniad, mae angen rhoi penderfyniad y Tribiwnlys Apêl Cystadleuaeth yn ei gyd-destun. Gweithredodd Dŵr Cymru yn ddidwyll wrth bennu prisiau’n unol â chyfarwyddyd Ofwat ar y pryd.

“Mae hefyd yn bwysig nodi bod y Tribiwnlys wedi gwrthod cais Albion Water Limited am iawndal esiamplaidd sylweddol ac rydym yn falch bod y Tribiwnlys wedi cydnabod nad oedd unrhyw ymdrech fwriadol i bennu prisiau’n annheg.”