Margaret Thatcher
Roedd y Farwnes Thatcher yn brif weinidog a wnaeth Prydain yn fawr unwaith eto, meddai David Cameron wrth Aelodau Seneddol heddiw.
Wrth roi teyrnged i Margaret Thatcher, fu farw ar ôl cael strôc ddydd Llun, dywedodd y Prif Weinidog wrth y Senedd ei bod yn “ddynes eithriadol.”
Dywedodd bod ei pholisïau yn ddadleuol ar y pryd, ond erbyn hyn yn cael eu derbyn gan wleidyddion o bob plaid.
Mae Aelodau Seneddol wedi cael eu galw’n ôl o’u gwyliau Pasg yn gynnar er mwyn rhoi teyrnged i’r Farwnes Thatcher.
‘Unigryw’ – Ed Miliband
Beth bynnag oedd eich barn amdani, roedd Margaret Thatcher yn ddynes “unigryw ac aruchel” meddai arweinydd y Blaid Lafur Ed Miliband.
Roedd Ed Miliband wedi rhoi teyrnged gynnes i’r cyn brif weinidog gan dynnu sylw at nifer o’i pholisïau “lle’r oedd hi’n iawn.” Ond dywedodd hefyd ei fod yn bwysig adlewyrchu ar y penderfyniadau lle’r oedd hi’n anghywir – gan gyfeirio at streic y glowyr a’i hagwedd at Nelson Mandela a De Affrica.
“Doeddwn i ddim yn cytuno gyda llawer o’r hyn a wnaeth o’n rwy’n parchu beth mae ei marwolaeth yn ei olygu i nifer fawr o bobl oedd yn ei hedmygu hi ac rwy’n parchu’r hyn a gyflawnodd hi.”
‘Eiconoclastig’ – Nick Clegg
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog ac arweinydd y Dems Rhydd Nick Clegg ei fod wedi ystyried yn ddwys ei deyrnged i Margaret Thatcher gan ychwanegu ei bod yn ffigwr “eiconoclastig” a gwleidydd “cymhleth” ond y dylid parchu ei chyflawniadau personol.
‘Dim maddeuant’ – Angus Robertson
Mewn araith fer, dywedodd Angus Robertson o’r SNP na fyddai’r Fonesig Thatcher “yn cael maddeuant am gyflwyno treth y pen ar Albanwyr” ond dywedodd bod ei safiad wedi arwain at greu Senedd yn yr Alban a Chymru.
‘Y bos gorau erioed’ – John Redwood
Dywedodd yr AS Ceidwadol a chyn Ysgrifennydd Cymru John Redwood mai’r Farwnes Thatcher oedd “y bos gorau rydw i erioed wedi ei gael.”
“Roedd hi bob amser yn dweud wrthon ni nad oedd ots o ble roeddech chi’n dod, pwy oedd eich mam a’ch tad – beth oedd yn bwysig oedd yr hyn allech chi ei gyfrannu,” meddai.
Fe’i disgrifiodd fel “dynes arbennig a gwladweinyddes fawr.”
Wedi codi Prydain ‘oddi ar ei gliniau’ – yr Arglwydd Hill
Fe lwyddodd y Farwnes Thatcher i godi Prydain “oddi ar ei gliniau” meddai Arweinydd Tŷ’r Arglwyddi heddiw wrth roi teyrnged iddi.
Dywedodd yr Arglwydd Hill o Oareford bod dyfodol y wlad fel petai “yn y fantol” cyn iddi ddod yn brif weinidog yn 1979.
“Beth bynnag yw ein barn a’n cefndir, rwy’n credu y bydden ni i gyd yn cytuno ei bod wedi gwneud gwahaniaeth mawr i’r wlad yr oedd hi yn ei charu, ei bod wedi helpu i godi Prydain oddi ar ei gliniau, ei bod wedi newid ein lle yn y byd ac wedi trawsnewid y byd gwleidyddol.”