Bydd yn rhaid i ddyn oedd wedi cyflenwi 20 tunnell o gyw iâr o ffatri frwnt i siopau pryd-ar-glyd – gan  gynnwys rhai yng Nghaerdydd, Casnewydd ac Abertawe – aros chwe mis i gael ei ddedfrydu.

Clywodd Llys y Goron Bryste fod Kamran Ajaib wedi defnyddio trôns fel clytiau golchi, a doedd dim sinc na glanhawr cyllyll ar y safle roedd yn ei ddefnyddio fel siop fwtsiwr ym Mryste.

Roedd yn cyflenwi siopau ym Mryste, Swindon, Caerdydd, Casnewydd ac Abertawe.

Ond nid oedd y safle yn cydymffurfio a phrofion hylendid bwyd a doedd gan Ajaib ddim trwydded i drin cig.

Clywodd y llys ei fod e wedi gwneud cryn dipyn o elw o’r busnes.

Ymwelodd swyddogion iechyd yr amgylchedd â’r safle ar ôl i gwsmer ddod o hyd i weiren yn ei gig o siop pryd-ar-glyd.

Plediodd Ajaib yn euog i wyth cyhuddiad o fethu â chydymffurfio â rheolau hylendid bwyd rhwng Mehefin 2010 a Mai 2011.

Plediodd y cwmni Hamza Poultry Cyf i’r un cyhuddiadau.

Bryntni

Daethpwyd o hyd i lif cig gyda gweddillion cig heb eu golchi i ffwrdd, toiledau drws nesaf i safle golchi a phâr o drôns newydd sbon yn cael eu defnyddio fel clwtyn.

Honnodd Ajaib ei fod e wedi esgeuluso gwaith papur priodol wrth wneud cais am drwydded ar gyfer y safle.

Mae’r cwmni bellach wedi ail-agor ac mae’n gweithredu’n gyfreithlon erbyn hyn.

Cafodd y broses ddedfrydu ei gohirio fis Hydref y llynedd er mwyn archwilio sefyllfa ariannol Ajaib a’r cwmni.

Cafodd Ajaib ei ryddhau ar fechnïaeth, ond fe allai wynebu cyfnod o garchar a dirwy.