Kim Jong Un, arweinydd Gogledd Korea
Mae Gogledd Korea wedi rhybuddio bod eu byddin wedi derbyn rhwydd hynt gan y llywodraeth i ddefnyddio arfau niwclear i ymosod ar America.

Mewn ymateb, mae Ameria wedi dweud y bydd yn anfon offer gwrthsefyll talfegrau Guam, ynys sydd o dan ei rheolaeth yn y Môr Tawel.

Er nad yw arbenigwyr yn credu bod gan Ogledd Korea y gallu ar hyn o bryd i lansio taflegrau niwclear, does neb yn gwybod hynny i sicrwydd.

Hwn yw’r rhybudd diweddaraf o Pyongyang mewn cyfres o fygythiadau cynyddol gan Ogledd Korea.

Mae’n beirniadu ymarferion milwrol ar y cyd rhwng America a De Korea, gan ddweud bod ei milwyr cael eu hawdurdodi i daro’n ôl yn erbyn yr ‘ymosodiad’ trwy ‘weithredu milwrol grymus ac ymarferol’, gan gynnwys defnyddio arfau niwclear.

Datganiad byddin Korea

“Rydym yn hysbysu’r Tŷ Gwyn a’r Pentagon yn ffurfiol y bydd polisi gelyniaethus America tuag at Weriniaeth Ddemocrataidd Pobl Korea yn cael ei ddinistrio gan ewyllys cryf ein lluoedd arfog a’n pobl a thrwy ddefnyddio’r datblygiadau diweddaraf mewn arfau niwclear llai ac ysgafnach.

“Fe fyddai’n well i America ystyried y sefyllfa ddifrifol sy’n bodoli.”

Ymateb America

Dywedodd Ysgrifennydd Amddiffyn America, Chuck Hagel, fod Washington yn gwneud popeth a all i dawelu’r sefyllfa.

“Mae rhai o’r camau y maen nhw wedi’u cymryd dros yr ychydig wythnosau diwethaf yn golygu perygl gwirioneddol a chlir a bygythiad i Dde Korea a Japan,” meddai. “Ac mae eu bygythiadau wedi’u hanelu’n uniongyrchol at ein canolfan yn Guam, at Hawaii ac at arfordir gorllewinol yr Unol Daleithiau,” ychwanegodd.