Mae banciau Cyprus wedi ail-agor ar ôl bod ar gau am bron i bythefnos.

Roedd rhesi o bobol wedi bod yn aros y tu allan i’r banciau bore yma yn disgwyl iddyn nhw agor.

Gall pobol gael mynediad i’w cyfrifon erbyn hyn, ond mae rhai cyfyngiadau ar drafodion.

Bydd pobol yn gallu tynnu uchafswm o 300 ewro allan o’u cyfrifon bob dydd, ond fydd y banciau ddim yn prosesu sieciau er y bydd modd i bobol eu rhoi nhw yn eu cyfrifon.

Tan heddiw, roedd gan deithwyr yr hawl i dynnu 1,000 ewro yn unig allan o’u cyfrifon, a’r mwyaf allai rhywun ei drosglwyddo i gyfrif tramor oedd 5,000 ewro.

Caiff y banciau eu hagor am chwe awr bob dydd, a bydd yr holl gyfyngiadau mewn grym am bedwar diwrnod.

Maen nhw’n cael eu hadolygu’n ddyddiol.

Cytundeb

Ers i’r banciau gau, mae gwleidyddion Cyprus wedi bod yn ceisio ateb y galw am ragor o arian.

Daethon nhw i gytundeb ar gynllun i achub y banciau ddydd Llun.

Bellach, mae gan Gyprus yr hawl i dderbyn benthyciad o hyd at 10 biliwn ewro fel rhan o’r cynlluniau.

Bwriad gwreiddiol y llywodraeth oedd tynnu 10% o gynilon y cyhoedd o’u cyfrifon, ond fe gafodd y cynllun hwnnw ei wrthod yn y Senedd.

Fe fydd banc Laiki yn cael ei hollti yn dilyn y trafferthion, ac fe fydd nifer o’i wasanaethau’n cael eu trosglwyddo i Fanc Cyprus.

Ond mae’r banciau’n dweud na ddylai darfu’n ormodol ar y cyhoedd.

Mae’r farchnad stoc ar gau o hyd wrth i’r banciau ail-ddechrau ar eu busnes heddiw.