Oscar Pistorius
Mae llys yn Ne Affrica wedi dweud y gall yr athletwr Oscar Pistorius adael De Affrica er mwyn cystadlu.
Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth fis diwethaf ar ôl cael ei gyhuddo o lofruddio’i gariad, Reeva Steenkamp yn eu cartref yn ninas Pretoria ar Chwefror 14.
Cyn y bydd yn cael gadael y wlad, fe fydd yn rhaid iddo roi gwybod i’r awdurdodau wythnos ymlaen llaw ei fod yn bwriadu teithio.
Fe fydd rhaid iddo hefyd ddychwelyd ei basbort o fewn 24 awr ar ôl dychwelyd i’r wlad.
Mae Pistorius yn honni ei
fod e’n credu mai lleidr oedd Steenkamp, ac fe glywodd y llys ei fod e wedi ei saethu drwy ddrws yr ystafell ymolchi.
Wrth ei ryddhau ar fechnïaeth fis yn ôl, dywedodd y barnwr Desmond Nair nad oedd e’n credu bod Pistorius yn debygol o geisio ffoi o Dde Affrica.
Dywedodd yr erlyniad fod olion o’r hormon testosteron a nodwyddau wedi cael eu darganfod yng nghartref y pâr yn dilyn y digwyddiad.
Pe bai hynny’n wir, fyddai Pistorius ddim yn cael cystadlu oherwydd bod yr hormon wedi’i wahardd gan y cyrff sy’n rheoli’r byd athletaidd.
Roedd ei gyfreithwyr wedi dweud mai moddion llysieuol oedd y sylwedd gafodd ei ddarganfod.