Amanda Knox
Mae’r Uchel Lys yn yr Eidal wedi dyfarnu y dylai’r fyfyrwraig o America, Amanda Knox wynebu achos llys newydd.

Fe ddyfarnodd y llys yn Rhufain heddiw y dylai llys apêl gynnal gwrandawiad arall yn yr achos yn erbyn Knox a’i chyn-gariad Raffaele Sollecito, o’r Eidal,  am lofruddio’r fyfyrwraig, Meredith Kercher.

Cafwyd hyd i gorff Meredith Kercher, 21, o Surrey, yn ei hystafell wely yn y tŷ roedd hi’n rhannu gyda Knox a myfyrwyr eraill yn Perugia yn yr Eidal ym mis Tachwedd, 2007.

Yn wreiddiol, roedd Amdana Knox a Sollecito wedi eu cael yn euog o lofruddio Meredith Kercher ond yn dilyn apêl yn 2011 cafodd y ddau eu rhyddhau o’r carchar a’u cael yn ddieuog o’r cyhuddiad.

Cafwyd Rudy Guede, o’r Traeth Ifori, yn euog o’r llofruddiaeth a chafodd ei ddedfrydu i garchar am 16 mlynedd.