Mae’r eira’n dal i amharu ar wasanaethau yn Sir y Fflint a Sir Ddinbych, ac mae’r cynghorau sir yn rhybuddio y gallai gymryd ychydig ddiwrnodau eto i glirio’r ffyrdd.

Mae’r ymdrechion i glirio’r eira wedi bod yn araf oherwydd bod y tywydd garw wedi parhau dros y penwythnos.

Mae’r prif ffyrdd yn dal ar agor ar y cyfan, ond mae rhai pentrefi’n dal o dan ychydig fodfeddi o eira.

Yn dilyn yr eira trwm, roedd yna bryderon am rew ddoe.

Mae’r tymheredd ychydig yn uwch na’r rhewbwynt heddiw, ond fe allai ostwng yn ystod y dydd.

Cafodd llawdriniaethau yn Ysbyty Maelor Wrecsam eu gohirio dros y penwythnos, ond maen nhw’n mynd yn eu blaenau erbyn hyn.

Mae Bwlch yr Oernant yn dal ar gau y bore yma, ond fe allai agor yn ystod y dydd.

Mae’r gwaith mwyaf o glirio’r eira’n parhau yn Llangollen a Chorwen.

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi dweud bod y tywydd gwaethaf ar ben, a does dim rhybuddion pellach o eira.