Julia Gillard
Er iddi wahodd ei chyd-aelodau yn y blaid Lafur i sefyll yn ei herbyn mae Julia Gillard yn parhau yn arweinydd ei phlaid ac yn Brif Weinidog Awstralia.

Roedd disgwyl i Kevin Rudd, a gafodd ei guro ganddi yn 2010, ymgeisio am arweinyddiaeth y blaid ond cyhoeddodd ar y funud olaf nad oedd am sefyll.

Roedd Gweinidog Llafur yn y llywodraeth, Simon Crean, wedi dwyn pwysau ar Julia Gillard i gynnal pleidlais arweinyddol neu orfodi un arni.

Mae etholiadau Awstralia yn cael eu cynnal ar Fedi 14 ac mae polau piniwn yn awgrymu na fydd Julia Gillard yn llwyddo i arwain ei phlaid i rym, ac y byddai Kevin Rudd yn fwy tebygol o gael llwyddiant.

Ymddiheuriad

Daeth y bleidlais toc ar ôl i Julia Gillard gyflwyno ymddiheuriad ar ran y wlad am bolisi dadleuol a barodd yn Awstralia o’r Ail Ryfel Byd tan yr 1970au.

Cafodd miloedd o famau di-briod eu gorfodi i ildio’u plant i gael eu mabwysiadu gan barau priod.

Roedd rhai o’r mamau yn bresennol yn y seremoni a nifer yn eu dagrau.