Baner Ynys Ciprys
Mae Senedd Ynys Ciprys wedi gohirio trafod cynllun i godi treth ar gynilon ym manciau’r wlad tan yfory.

Mae’r Ynys mewn perygl o fethdalu ac mae cytundeb rhwng yr Undeb Ewropeaidd a’r Gronfa Ariannol Ryngwladol i atal hyn yn cynnwys bwriad i godi treth o hyd at 10% ar y rhai sydd gan gyfrifon cynilo gan roi cyfranddaliadau yn y banciau iddyn nhw fel iawndal.

Roedd yr Arlywydd Nicos Anastasiades wedi dweud bod y cytundeb “yn boenus ond angenrheidiol” ond mae arweinwyr y gwrthbleidiau a’r rhai sydd gan gyfrifon cynilo wedi eu syfrdannu a’u gwylltio gan y cytundeb sydd angen sêl bendith y Senedd i ddod yn ddeddf.

Pryder

Mae rhai o wleidyddion Senedd Ewrop hefyd yn bryderus iawn am y cytundeb a’i effaith ar bobl sy’n cynilo mewn banciau eraill o fewn yr UE.

Dywedodd Sharon Bowles sy’n gadeirydd Pwyllgor Economaidd ac Ariannol y Senedd  “Mae cipio arian pobl gyffredin fel hyn a’i alw’n dreth yn digwydd er mwyn ceisio osgoi deddfau’r UE sy’n gwarantu cynilon  gan felly amddifadu buddsoddwyr o unrhyw amddiffynfa oedd wedi ei addo iddyn nhw.”

Diogelu’r lluoedd arfog a gweithwyr y llywodraeth

Mae gan y DU nifer helaeth o weithwyr ac aelodau o’r lluoedd arfog ar Ynys Ciprys.

Dywedodd y Canghellor George Osbourne heddiw y bydd y llywodraeth yn eu digolledu nhw os y bydd y lefi yma yn dod i rym.