Y Pab Ffransis yn annerch y dyrfa
Mae’r Pab Ffransis, gafodd ei ethol dydd Mercher diwethaf, wedi dangos ar ei Sul cyntaf wrth ei ddyletswyddau bod ei arddull yn mynd i fod yn dra gwahanol i un ei ragflaenydd.

Y bore yma fe wnaeth weinyddu’r offferen yn eglwys fechan plwyf y Fatican yn hytrach nag yn Eglwys Gadeiriol San Pedr.

Ar ddiwedd yr offeren fe safodd y tu allan i’r eglwys, yn ôl arferiad offeiriad y plwyf, gan gyfarch yr addolwyr a gofyn iddyn nhw weddio drosto.

Yn ddiweddarach fe wnaeth offrymu gweddi’r Angelus a bendithio’r dyrfa enfawr oedd wedi ymgasglu y tu allan i Sgwâr San Pedr yn Rhufain.

Doedd o ddim wedi paratoi pregeth o gwbl ac fe siaradodd yn fyr-fyfyr am allu Duw i faddau – yn gwbl groes i arferiad y Pab Bened o bregethu.

Bydd y Pab Ffransis a’r Pab Bened yn cyfarfod am y tro cyntaf ers yr etholiad dydd Sadwrn nesaf.