Fe fydd y cyfradd newydd o un taliad pensiwn o tua £144 yr wythnos i bawb yn cychwyn yn 2016 yn hytrach na 2017 yn ôl cyhoeddiad heddiw gan y Canghellor George Osbourne.

Bydd y cap ar faint fydd yn rhaid i’r henoed dalu am ofal cymdeithasol yn Lloegr yn cychwyn yr un pryd.

Fe wnaeth y Canghellor y cyhoeddiad dridie cyn y gyllideb dydd Mercher ac mae wedi dweud y bydd cynnwys y gyllideb “o gymorth i’r hen a’r ifanc tra’n glynu at raglen gostwng dyledion y llywodraeth.”

Mae’r pensiwn ar hyn o bryd yn £107.45 yr wythnos ond gall godi trwy credyd pensiwn ac ail bensiwn y wladwriaeth i fod yn £142.70 yr wythnos.

Mae’r ail bensiwn yn ddibynnol ar gyfraniadau Yswiriant Cenedlaethol ond bydd hwn yn diflannu unwaith y daw’r pensiwn newydd i rym.

Bydd y cap o £72,000 am ofal cymdeithasol i’r henoed yn Lloegr hefyd yn cychwyn yn 2016. Roedd y cap i fod yn £75,000 yn wreiddiol.

Cap ar dâl am ofal yw hyn – bydd yn rhaid i bobl barhau i dalu am eu cynhaliaeth.

“Economeg y seilam”

Mae’r Blaid Lafur yn honni nad yw llywodraeth y glymblaid yn gwneud digon i hybu’r economi ac mae Ed Balls wedi galw eu cynlluniau yn “economeg y seilam” gan alw ar y Canghellor i fenthyg rhagor a thorri TAW er mwyn rhoi hwb i’r economi.

Wrth siarad ar raglen Andrew Marr ar y BBC dywedodd mai yr unig reswm pam nad yw’r llywodraeth yn newid eu cynlluniau yw er mwyn osgoi gwarth gwleidyddol.

“Dyw hyn ddim yn ddigon o reswm i lynu at gynllun sy’n methu,” meddai.