Mae’r broses bleidleisio i ethol Pab newydd yn parhau heddiw gyda dwy bleidlais yn cael eu cynnal y bore yma.
Os nad yw’r 115 o gardinaliaid wedi dod i benderfyniad ar olynydd i Bened XVI erbyn diwedd yr ail bleidlais, fe fydd dwy arall yn cael eu cynnal y prynhawn yma.
Mae’r cardinaliaid dan glo y tu mewn i’r Eglwys Sistine, a fyddan nhw ddim yn cael dod allan tan fod y Pab wedi’i ethol.
Er mwyn i hynny ddigwydd, rhaid i 77 o’r cardinaliaid gytuno ar yr enillydd.
Mwg du
Daeth mwg du allan o simne’r Eglwys neithiwr i nodi nad oedd y cardinaliaid wedi dod i benderfyniad.
Fe fydd mwg gwyn yn cael ei ryddhau er mwyn nodi bod y Pab wedi’i ethol.
Yr arwyddion ar hyn o bryd yw nad oes un ymgeisydd blaenllaw ar gyfer y rôl.
Gallai’r mwg gael ei ryddhau mor gynnar â 9.30am y bore yma, ond gallai ail rownd olygu bod y canlyniad yn cael ei gyhoeddi am 11.30am.
Os oes angen cynnal rownd arall o bleidleisio, mae disgwyl i’r canlyniad gael ei gyhoeddi ar ôl y drydedd rownd am 4.30pm neu’r bedwaredd rownd am 6.30pm heno.
Os nad oes canlyniad erbyn dydd Gwener, bydd y cardinaliaid yn gorffwys ac yn ail-ddechrau’r broses dros y penwythnos.