Bethan Jenkins
Fe fydd Aelodau’r Cynulliad yn pleidleisio heddiw i benderfynu a ddylai  Bethan Jenkins AC gael ei cheryddu’n ffurfiol am yfed a gyrru.

Pan gafodd AC Plaid Cymru dros Dde Orllewin Cymru ei stopio gan yr heddlu yng Nghaerdydd fis Hydref y llynedd, dangosodd prawf anadlu bod y lefel alcohol yn ei chorff ddwywaith y lefel sy’n dderbyniol ar gyfer gyrru.

Dywedodd y Cynulliad mewn adroddiad yn ddiweddarach ei bod hi wedi dwyn anfri ar y sefydliad, ac fe fydd cynnig yn cael ei gyflwyno heddiw i’w chosbi ar sail yr adroddiad.

Cafodd Bethan Jenkins ei gwahardd rhag gyrru am 20 mis ar ôl pledio’n euog yn Llys Ynadon Caerdydd fis Rhagfyr y llynedd.

Ers y digwyddiad, mae Bethan Jenkins wedi sôn am ei brwydr yn erbyn iselder.

Fydd hi ddim yn gwrthwynebu’r cynnig i’w cheryddu, a fydd hi ddim yn y Cynulliad i glywed y penderfyniad heddiw.