Y gyflafan yn Fukushima
Mae miloedd o bobl wedi dod at ei gilydd mewn parc yn Tokyo heddiw i brotestio yn erbyn ynni niwclear.

Maen nhw wedi addunedu i gario mlaen i brotestio er nad oes llawer o newid wedi bod ers y gyflafan niwclear yn Fukushima bron  i ddwy flynedd yn ôl. Digwyddodd y gyflafan ar 11 Mawrth 2011 o ganlyniad i ddaeargryn a tsunami.

Dim ond dau adweithydd niwclear o’r 50 sydd yn y wlad sy’n cynhyrchu ynni ar hyn o bryd yn rhannol oherwydd y protestiadau sydd wedi cael eu cynnal yn gyson ers Fukushima.

Mae protestwyr yn poeni fod prif weinidog newydd Japan, Shinzo Abe, o blaid ynni niwclear a’i fod yn awyddus i ailddechrau rhai adweithyddion, a’i fod o blaid adeiladu rhai newydd hefyd.